2011 Rhif 2906 (Cy. 310)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) ( Diwygio) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S. 1989/306) (“y prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 5 o'r prif Reoliadau yn nodi o dan ba amgylchiadau y bydd ymwelydd o dramor yn esempt rhag ffioedd am driniaeth y cododd yr angen amdani pan oedd yr ymwelydd o dramor yn ymweld â'r Deyrnas Unedig. Mae rheoliadau 2(2) a (3) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau i ddarparu esemptiad i unigolion sy'n rhan o Deulu'r Gemau yn ystod y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012 rhwng 9 Gorffennaf 2012 a 12 Medi 2012.

Mae rheoliad 2(5) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod Atodlen 3 newydd yn y prif Reoliadau, sy'n diffinio’r hyn a olygir gan  "Games Family”.

Mae rheoliad 2(4) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod Jersey yn y rhestr, yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau, o’r gwledydd neu’r tiriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dod i gytundeb cilyddol â hwy.

 


2011 Rhif 2906 (Cy. 310)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2011

Gwnaed                                 4 Rhagfyr 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym                        27 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar   27 Rhagfyr 2011.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau”  (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989([2]).

Diwygio'r prif Reoliadau

2.(1) Diwygir y prif Reoliadau fel a ganlyn.

(2) Ar ôl y diffiniad o “refugee” yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol—

“ “the relevant period” means the period from 9 July 2012 to 12 September 2012;”.

(3) Yn rheoliad 5 (esemptiad rhag ffioedd ar gyfer triniaeth y cododd yr angen amdani yn ystod yr ymweliad) —

(a)     ar ôl y gair "companion" ym mharagraff (f), dileer yr atalnod llawn a mewnosoder "; or”;  a

(b)     ar ddiwedd y rheoliad, mewnosoder y paragraff a ganlyn —

“(g) an individual who is in the United Kingdom as part of the “Games Family”, as defined in Schedule 3, during the relevant period.”.

(4) Yn Atodlen 2 mewnosoder, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, y gair—

Jersey”.

(5) Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder yr Atodlen ganlynol—

SCHEDULE 3

Regulation 5(g)

Games Family

“Games Family” —means the group of individuals who are taking part or involved in the Olympic or Paralympic Games in London 2012 (“the Games”), and who have been given a letter code for the purpose of receiving free treatment the need for which arose during the visit to the United Kingdom.

This includes the following groups:

 

Athletes – comprising athletes and their supporting team officials participating in the Games as accredited members of a National Olympic Committee or National Paralympic Committee delegation;

Technical officials – comprising the team of individuals that officiates the field of play and athlete areas at the Games;

Press – comprising the Games accredited representatives of photographic and written press;

Broadcasters – comprising the Olympic Broadcast Service and all the Games- related rights holding broadcasting organisations;

Olympic and Paralympic family – comprising the International Olympic Committee and International Paralympic Committee organisations (and their constituents), Chairmen and Chief Executive Officers (or equivalent). ”.    

    

 

 

 

                      

 

                                               

 

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

4 Rhagfyr 2011

 



([1])           2006 p.42.

([2])           O.S. 1989/306 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/438; O.S. 1994/1535; O.S. 2004/1433 (Cy. 146); O.S. 2008/2364 (Cy. 203); O.S. 2009/1175 (Cy. 102); O.S. 2009/1512 (Cy. 148);  O.S. 2009/1824 (Cy. 165); O.S. 2009/3005 (Cy. 264); O.S. 2010/927 (Cy. 94).